Detail from This Way Up: 2017

Detail from This Way Up: 2017

 

 Statement     Déclaration     Declaracion     Dichiarazione      Erklärung      聲明

Datganiad

Mae fy ngwaith yn hollol haniaethol. Rwy'n rheoli arwyneb fy mhaentiadau yn ofalus i sicrhau fod y lliw yn fwy mynegiannol. Mae newidiadau cynnil o ludiogrwydd, sglein a gwead i gyd yn rheoli a phennu sut y bydd y lliw yn edrych. Rwy'n ddyfeisgar gyda fy mhenderfyniadau lliw ac mae angen strategaethau i wneud i’r haenau a'r addasiadau digwydd yn effeithiol. Mae pob peintiad yn gosod gofynion ar ei olynydd i ddatblygu'r hanfodion mynegiannol o liw, arwyneb a graddfa. Mae'n rhaid i mi fod yn hyderus bob amser i sicrhau cymesuredd mewnol cryf, a rhaid imi ddatblygu fy hyder trwy arfer cyson.

Rwy'n mwynhau defnyddio brwshys, ac rwy'n teimlo bod ganddynt naws agos. Rwyf am i wyliwr gael profiad gweledol dwys wrth edrych ar fy mhaentiadau, a bod yn ymwybodol iawn o lwybr y brwsh neu ledaeniad y lliw. Pan fyddaf yn gwneud fy mhaentiadau, dwi’n darganfod strwythurau gofodol sy'n datblygu'r cyfansoddiad mewn ffyrdd annisgwyl.
 
Mae arlunydd yn athronydd ac yn berson chwaraeon; mae cynhyrchu paentiad yn broses ymenyddol a chorfforol. Dwi byth yn ceisio darogan canlyniad peintiad, yn hytrach, rwy'n ymrwymo'n ddwys â phob eiliad o’r broses o baentio. Rwy'n credu y dylai pob lliw fod yn gryf yn unigol, ond dylen nhw hefyd weithio gyda'i gilydd fel grŵp pwerus. Mae'r dull hwn yn rhoi sicrwydd imi fy mod bob amser yn rhoi'r cyfle gorau i lwyddo yn fy mhaentiadau.